Beth yw Cysgliad?

Mae Cysgliad yn feddalwedd sy’n helpu i ysgrifennu Cymraeg. Mae’n addas ar gyfer pobl sy’n rhugl eu Cymraeg, dysgwyr, a phobl ddi-Gymraeg.

Mae’n gweithio ar gyfrifiaduron Windows ac mae dwy brif ran iddi, Cysill i wirio sillafu a gramadeg, a Cysgeir fel cyfres o eiriaduron:

Cysill

Mae Cysill yn rhaglen sy’n dod o hyd i gamgymeriadau iaith mewn dogfennau Cymraeg ac yn eu cywiro.

Gall adnabod camgymeriadau teipio, sillafu a gramadeg, gan gynnwys camdreiglo. Yn ogystal ag awgrymu cywiriadau, mae’n esbonio natur y gwall mewn camgymeriadau gramadegol er mwyn eich helpu i osgoi’r gwall yn y dyfodol.

Mae Cysill hefyd yn cynnwys geiriadur llygoden, sef nodwedd sy’n dangos cyfieithiad o air mewn testun pan fyddwch yn dal y pwyntydd uwch ei ben.

Mae Cysill hefyd yn cynnwys thesawrws sy’n eich helpu i ddod o hyd i eiriau gwahanol gydag ystyron tebyg – ffordd berffaith o ddatblygu eich geirfa!

Am mwy o wybodaeth am Cysill cliciwch yma

Cysgeir

Mae Cysgeir yn gasgliad o nifer o eiriaduron dwyieithog Cymraeg a Saesneg ar ffurf electronig gyfleus. Mae’n cynnwys nifer o eiriaduron termau technegol fel Y Termiadur Addysg, a geiriadur cyffredinol Cysgair.

Mae ynddo gannoedd ar filoedd o gofnodion, ond eto mae’n hawdd dod o hyd i gofnod perthnasol yn gyflym gyda rhyngwyneb sy’n hawdd i’w ddefnyddio.

Am mwy o wybodaeth am Cysgeir cliciwch yma

Gweithio gyda Microsoft Word, LibreOffice ac ati

Gall Cysill a Cysgeir weithio fel rhaglen annibynnol neu yn Microsoft Word, Outlook neu LibreOffice.org drwy fotymau ar y bar offer.

Gall y ddwy raglen weithio hefyd gyda rhaglenni golygu testun eraill drwy ddefnyddio bysellau brys.

Gofynion System Cysgliad

Mae Cysgliad yn addas ar gyfer cyfrifiaduron personol sy’n rhedeg ar Windows 7, 8 a 10. Nid yw Cysgliad yn gweithio gyda MacOS, gw. y nodyn isod.

Cysgliad ar macOS

Datblygwyd fersiwn o Cysgliad yn 2008 ar gyfer Mac OSX 10.4 ac is gyda chymorth grant oddi wrth Fwrdd yr Iaith. Nid yw’r fersiwn hwn wedi’i ddiweddaru ers hynny ac nid yw’r feddalwedd hon yn cael ei chynnal bellach. Mae modd cael y fersiwn yma. Ymddiheuriwn nad oes fersiwn mwy cyfredol ar gael ar gyfer macOS.