Trwydded Am Ddim

Gall unigolion, ysgolion, a chwmnïau bach sy’n cyflogi 10 neu lai o bobl lwytho meddalwedd Cysgliad yn rhad ac am ddim ar eu cyfrifiadur Windows drwy glicio ar y botwm isod.

Lawrlwytho

Gosod

Dylai clicio ar y botwm Lawrlwytho ddechrau’r broses o lwytho Cysgliad i lawr a’i osod ar y cyfrifiadur.

Os na fydd y broses osod yn dechrau, efallai bod angen dwbl-glicio ar y ffeil sydd newydd ei llwytho i lawr ym mhanel neu ffolder Lawrlywthiadau (Downloads) y porwr.

Os bydd Windows yn dangos neges “Mae Windows wedi gwarchod eich cyfrifiadur”, does dim angen pryderu. Mae Cysgliad yn ddiogel, ac mae ganddo lofnod digidol Prifysgol Bangor. I barhau i osod Cysgliad, mae angen:

  1. clicio ar “Mwy o Wybodaeth…”
  2. clicio ar y botwm “Rhedeg beth bynnag”

(gweler y delweddau isod)

Yn yr un modd, os bydd eich meddalwedd gwrthfirws yn nodi bod Cysgliad yn fygythiad diogelwch, bydd angen i chi ddweud yn wahanol wrth y feddalwedd a’i roi i barhau gyda’r gosod.

 

Gwybodaeth

Mae rhagor o wybodaeth am feddalwedd Cysgliad, a’r rhaglenni Cysill a Cysgeir sydd ynddo, ar gael yma.

Cymorth

Mae cymorth ynglŷn â gosod a defnyddio Cysgliad, Cysill a Cysgeir, ar gael yma.

Manylion Trwydded

Mae trwydded Cysgliad ar gyfer unigolion, ysgolion a chwmnïau sy’n cyflogi 10 neu lai o bobl yn cael ei ariannu gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r ymdrech i helpu plant a’u teuluoedd, a’r cyhoedd yn gyffredinol, i weithio o bell ac elwa ar dechnoleg mewn ffyrdd newydd. Mae hyn hefyd yn rhan o’r ymgyrch i ddyblu’r defnydd o Gymraeg erbyn 2050.

Bydd Cysgliad yn parhau i fod ar gael ar y sail uchod tra bydd cytundeb Prifysgol Bangor gyda Llywodraeth Cymru yn para.