Cysill

Gwirydd sillafu a gramadeg Cymraeg

Mae’r gwirydd sillafu Cysill yn adnabod gwallau teipio a chamsillafu, gan dynnu sylw atyn nhw a chynnig cywiriadau.

Mae Cysill yn adnabod gwallau sillafu ac yn cynnig cywiriadau.

Mae’r gwirydd gramadeg yn gallu cywiro camdreiglo a chamgymeriadau gramadegol, gan roi’r rheswm pam mae’r gwall yn cael ei ystyried yn anghywir.

Mae Cysill yn adnabod gwall gramadegol ac yn cynnig y cywiriad priodol. Gallwch ddewis gweld y negeseuon gwall yn y Gymraeg neu’r Saesneg.

Gwirio testunau o fewn offer prosesu geiriau

Mae’r rhaglen yn gweithio gyda rhaglenni prosesu geiriau fel Microsoft Word a LibreOffice ar Windows drwy bwyso’r botwm Gwirio ar y bar offer.


Cysill a Cysgeir yn Microsoft Word 2016. Mae’r ddwy raglen yn gweithio hefyd gyda fersiynau blaenorol Microsoft Word yn ogystal â Microsoft Outlook.
Cysill a Cysgeir yn LibreOffice ar Windows.
Cysill a Cysgeir yn Microsoft Outlook 2016

Gwirio testunau ym mhob man arall…

Mae Cysill yn gallu gweithio’n annibynnol hefyd er mwyn gallu gwirio testunau o fewn unrhyw feddalwedd arall ar eich cyfrifiadur Windows e.e. porwr gwe, ffurflenni, golygydd testun.

Er mwyn gwneud hyn

  • amlygwch unrhyw destun rydych angen ei wirio
  • pwyswch Ctrl, Alt a W ar yr un pryd

Bydd y testun yn ymddangos yn Cysill ac yn cael ei wirio. Os yw’r rhaglen wreiddiol yn caniatáu golygu testun, bydd Cysill yn gosod y testun wedi ei gywiro yn ôl yn ei safle gwreiddiol ar ôl gorffen gwirio.

Mae’n bosib dewis bysellau brys eich hun drwy ddewis ‘Dangos -> Dewisiadau -> Bysellau Brys’ yn newislen Cysill

Thesawrws

Mae Cysill hefyd yn cynnwys thesawrws sy’n eich helpu i ddod o hyd i eiriau gwahanol sydd ag ystyr tebyg i’w gilydd, er mwyn gwella’ch geirfa ac amrywio’ch arddull.

Rhai o’r cyfystyron mae Cysill yn eu cynnig am ‘hapus’