Cysgeir

Casgliad o eiriaduron Cymraeg-Saesneg hwylus a defnyddiol

Mae Cysgeir, sef rhan o becyn Cysgliad, yn gasgliad o eiriaduron defnyddiol a chynhwysfawr ar gyfer eich cyfrifiadur. Mae’n cynnwys geiriau cyffredinol yn ogystal â thermau arbenigol o’r geiriaduron terminoleg sydd wedi cael eu datblygu ym Mhrifysgol Bangor dros y blynyddoedd.

Manteision Geiriadur Electronig

Fel geiriadur electronig, mae gan Cysgeir sawl mantais dros eiriaduron papur traddodiadol. Mae’n gyflym ac yn dod o hyd i air yn rhwydd. Teipiwch y gair rydych yn chwilio amdano yn y blwch chwilio a bydd y geiriadur yn dechrau chwilio amdano cyn i chi orffen teipio. Os nad ydych yn siŵr o’r sillafiad, gallwch deipio’r llythrennau cyntaf a defnyddio’r ffenestr chwilio ar y chwith i ddod o hyd iddo.

Chwilio yn y naill iaith neu’r llall

Gallwch chwilio o’r Gymraeg i’r Saesneg neu o’r Saesneg i’r Gymraeg, ac mae’n hawdd newid o un iaith drwy glicio ar un botwm. Gallwch hefyd newid iaith y rhyngwyneb o’r Gymraeg i’r Saesneg.

Nodweddion Arbennig

Dad-dreiglo

Mae gan y geiriadur nifer o nodweddion diddorol eraill nad ydynt i’w cael mewn geiriaduron traddodiadol, er enghraifft y gallu i ddad-dreiglo geiriau. E.e. teipiwch gath yn y blwch a bydd yn ei adnabod fel ffurf ar cath ac yn mynd â chi at y gair hwnnw.

Dad-redeg berfau ac arddodiaid

Yn yr un ffordd, mae Cysgeir hefyd yn dad-redeg berfau ac arddodiaid. Os teipiwch chi rhedodd bydd Cysgeir yn ei adnabod fel ffurf ar rhedeg ac yn mynd â chi at y berfenw hwnnw.

Geiriadur Odlau

Mae Cysgeir hefyd yn gallu gweithredu fel geiriadur odlau Cymraeg – teipiwch ‘*’ cyn llythrennau’r odl ac fe gewch restr o’r holl eiriau sy’n gorffen gyda’r cyfuniad hwnnw o lythrennau.

Dod o hyd i dermau

Un arall o fanteision Cysgeir yw ei fod yn dod o hyd i dermau aml-air neu ymadroddion sy’n cynnwys y gair chwilio drwy glicio ar y botwm glas. Pe baech yn chwilio am y gair ‘pysgod’ er enghraifft, byddai clicio’r botwm glas yn dangos pob term ac ymadrodd yn y geiriadur sy’n cynnwys y gair pysgod, er enghraifft gwerthwr pysgod (fishmonger) a pysgodyn sgyfeiniog (lungfish).