Dewin Cysgliad
Gall Dewin Cysgliad eich helpu i osod Cysgliad am y tro cyntaf. Yn ogystal â hyn, gall y dewin ddiweddaru fersiwn sydd arno’n barod, diweddaru cynnwys ieithyddol y rhaglenni, a datrys problemau cyffredin.
Pecyn Cysgliad
Mae Cysill yn gweithio ar gyfrifiaduron Windows ac mae dwy brif ran iddi, Cysill i wirio sillafu a gramadeg, a Cysgeir fel cyfres o eiriaduron.
Ategyn Cysill Outlook
Defnyddiwch Cysill i wirio sillafu a gramadeg cyn anfon eich negeseuon e-bost Cymraeg. Mae’n adnabod gwallau teipio a chamsillafu, gan dynnu sylw atyn nhw a chynnig cywiriadau. Mae Cysill yn gallu cywiro camdreiglo a chamgymeriadau gramadegol hefyd, gan roi’r rheswm pam mae’r gwall yn cael ei ystyried yn anghywir. Bydd eich data yn aros ar eich dyfais wrth i chi ddefnyddio Cysill.
