Dewin

Gall Dewin Cysgliad eich helpu i wneud y canlynol:

  • Gosod Cysgliad am y tro cyntaf ar eich cyfrifiadur
  • Diweddaru fersiwn sydd arno’n barod
  • Diweddaru cynnwys ieithyddol y rhaglenni
  • Datrys problemau cyffredin.

Gosod neu Ddiweddaru Cysgliad

Mae’r Dewin yn defnyddio eich cyfeiriad e-bost i wirio a oes gennych hawl i lwytho neu ddiweddaru copi o Cysgliad ar eich cyfrifiadur.

Mae’r Dewin ar gyfer defnyddwyr fersiynau cartref a sefydliadol Cysgliad.

Os nad oes trwydded Cysgliad gennych yn barod, ewch i’r dudalen Prynu Cysgliad i brynu trwydded a chofrestru eich cyfeiriad e-bost.

Os yw eich cyflogwr neu sefydliad addysg yn berchen ar drwyddedau sefydliad, yna gallwch ddefnyddio’r Dewin i lwytho Cysgliad am ddim gyda’ch cyfeiriad ebost gwaith/sefydliad.

Cliciwch ar y botwm ‘Rhedeg’ isod i ddechrau’r Dewin:

Rhedeg

Diweddaru, Cynnal a Chadw

Gall y Dewin hefyd eich helpu i gadw cynnwys ieithyddol y rhaglenni yn gyfoes, gan gynnwys geiriaduron Cysgeir. Cliciwch y botwm ‘Diweddaru Geiriaduron’ yn y Dewin.

Datrys Problemau

Gall y Dewin hefyd eich helpu i ddatrys problemau cyffredin wrth ddefnyddio Cysgliad ar eich cyfrifiadur e.e. bar offer Cysgliad yn diflannu yn Word.

Rhedwch y Dewin er mwyn iddo’ch helpu i ddatrys y broblem.