Cymorth Ategyn Cysill Outlook

Canllaw Defnyddiwr

Cliciwch yma i weld y canllaw sysadmins.

Sut i ddefnyddio Cysill yn Microsoft Outlook

Dod o hyd i’r ategyn

Mae’r botwm Cysill i’w weld wrth gyfansoddi e-bost newydd neu wrth ymateb i
e-bost. Mae’n ymddangos yn rhuban Outlook, yn yr un tab â’r offer cyfansoddi
arferol.

Gwirio eich testun

  1. Ysgrifennwch eich e-bost yn Gymraeg
  2. Dewiswch y testun yr ydych am ei wirio
  3. Cliciwch ar y botwm Cysill yn y rhuban
  4. Bydd cwarel (pane) yn ymddangos ar ochr dde’r ffenestr

Bydd Cysill yn gwirio’r testun a gafodd ei ddewis ac yn dangos unrhyw wallau
sillafu, gramadeg a threiglo.

Cywiro gwallau

Pan fydd Cysill yn canfod gwall posibl:

  1. Bydd cerdyn yn ymddangos ac yn dangos:
    • Y math o wall (sillafu neu ramadeg)
    • Y testun yn ei gyd-destun, gyda’r gwall wedi’i amlygu
    • Esboniad byr o’r gwall
    • Awgrymiadau posibl ar gyfer cywiro
  2. Cliciwch ar yr awgrym yr hoffech ei ddefnyddio
  3. Pwyswch y botwm Derbyn i gadarnhau’r newid
  4. Bydd y cerdyn yn diflannu a’r rhifydd newidiadau yn cynyddu
  5. Ar ôl cwblhau’r holl gywiriadau, cliciwch Diweddaru i wneud y newidiadau
    i’ch e-bost

Defnyddio’r geiriadur personol

Weithiau, bydd Cysill yn tynnu sylw at air sydd wedi’i sillafu’n gywir ond nad
ydyw yn ei eiriadur. Gallwch ddysgu’r gair i Cysill:

  1. Cliciwch y botwm Dysgu ar gerdyn y gwall
  2. Bydd y gair yn cael ei ychwanegu at eich geiriadur personol
  3. Ni fydd Cysill yn tynnu sylw at y gair fel gwall posibl wedi hynny.
  4. I reoli eich geiriadur personol:
    • Cliciwch y botwm Geiriadur yn rhuban Outlook
    • Byddwch yn gweld rhestr o’r geiriau yr ydych chi wedi’u ‘Dysgu’ i Cysill
    • Cliciwch ar unrhyw air i’w ddileu o’r geiriadur

Anwybyddu geiriau

Os ydych yn dymuno anwybyddu awgrym y mae Cysill wedi’i wneud.

  1. Cliciwch y botwm Anwybyddu ar gerdyn y gwall
  2. Bydd y cerdyn yn diflannu
  3. Efallai y bydd y gair yn cael ei fflagio eto mewn sesiynau yn y dyfodol

Newid iaith y rhyngwyneb

Mae Cysill ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg:

  1. Edrychwch ar waelod cwarel Cysill
  2. Cliciwch ar Cymraeg neu English i newid yr iaith
  3. Bydd iaith eich rhyngwyneb yn diweddaru’n syth

Os nad yw’r botwm Cysill yn ymddangos

Os na allwch weld y botwm Cysill yn y rhuban:

  1. Edrychwch ar gornel dde uchaf yr e-bost
  2. Os yw Outlook yn dangos fersiwn gryno o’ch rhuban, cliciwch y saeth i lawr i
    ddangos yr holl fotymau.

Cysill ar gyfer Microsoft Outlook – canllaw dosbarthu

Trosolwg

Mae Cysill yn ategyn gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg ar gyfer Microsoft
Outlook a ddatblygwyd gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor.

Fersiwn: 26.04.0
Datblygwr: Prifysgol Bangor
Cymorth: cysgliad@bangor.ac.uk

Nodweddion allweddol

  • Gwirio sillafu a gramadeg ar gyfer testun Cymraeg
  • Rheoli geiriadur personol
  • Rhyngwyneb dwyieithog (Cymraeg / Saesneg)
  • Dangos gwallau yn eu cyd-destun gydag awgrymiadau cywiro
  • Diweddariadau cywiro swmp

Diogelwch a phreifatrwydd

Pensaernïaeth prosesu lleol

Mae’r ategyn yn prosesu pob testun yn lleol ar ddyfais y defnyddiwr. Mae’r
proses profi yn rhedeg yn y porwr / ap bwrdd gwaith gan ddefnyddio WebAssembly.
Nid yw cynnwys e-bost yn cael ei drosglwyddo i weinyddion allanol ar gyfer
dadansoddi. Mae geiriadur personol y defnyddiwr yn cael ei storio yn storfa
leol y porwr ac nid yw’n cael ei rannu rhwng dyfeisiau neu raglenni.

Caniatâd gofynnol

Mae ReadWriteItem yn caniatáu i’r ategyn:

  • Darllen cynnwys e-byst sy’n cael eu cyfansoddi
  • Addasu testun dethol mewn e-byst

Gweler dogfennaeth Microsoft

Cysylltiadau allanol

  1. Adnoddau CDN. Mae hyn yn ofynnol er mwyn i’r ategyn weithio. Mae ffeiliau’r
    ategyn yn cael eu llwytho o’n Rhwydwaith Dosbarthu Cynnwys, wedi’i weini
    trwy HTTPS.

Llwyfannau a gefnogir

  • Microsoft Outlook (Ap Bwrdd Gwaith – Windows)
  • Outlook 365 (Gwe – Pob llwyfan)

Nid yw ap bwrdd gwaith MacOS yn cael ei gefnogi ar hyn o bryd.

Gosod a dosbarthu

Opsiwn 1: dosbarthiad canolog

Dosbarthu trwy Ganolfan Gweinyddol Microsoft 365:

  1. Lawrlwytho’r ffeil manifest.xml
  2. Mynd i mewn i Ganolfan Gweinyddol Microsoft 365
  3. Llywio i Settings > Integrated apps > Add-ins
  4. Uwchlwytho’r ffeil manifest
  5. Aseinio i ddefnyddwyr neu grwpiau

Opsiwn 2: gosodiad â llaw

Gall defnyddwyr unigol lwytho’r ategyn ochr-yn-ochr:

  1. Darparu’r ffeil manifest.xml i ddefnyddwyr
  2. Mynd i https://aka.ms/olksideload ac aros am y ffenestr naid
  3. Dewis My add-ins > Add a custom add-in > Add from file
  4. Pori a dewis y ffeil manifest
  5. Cadarnhau’r gosodiad
  6. Bydd Microsoft yn cysoni’r ategyn i’ch ap bwrdd gwaith yn awtomatig, gall
    gymryd diwrnod. Ail-lwythwch y fersiwn gwe (Ctrl+Shift+R) a dylech weld
    yr ategyn yno ar unwaith.

Gwirio

Ar ôl gosod, dylai defnyddwyr weld botwm Cysill yn rhuban Outlook wrth
gyfansoddi e-byst newydd neu atebion. Mae ar gael yn y rhubanau Message a
Insert. Mae clicio’r botwm yn agor cwarel ar yr ochr dde.

Cymorth a phreifatrwydd

Cysylltiad cymorth

E-bost: cysgliad@bangor.ac.uk
Gwe: https://www.cysgliad.com/cy/cymorth/cymorth-ategyn-cysill-outlook
Polisi preifatrwydd: https://termau.cymru/polisi-preifatrwydd-yr-ategyn-termau-ar-gyfer-outlook/