Canllaw Defnyddiwr
Cliciwch yma i weld y canllaw sysadmins.
Sut i ddefnyddio Cysill yn Microsoft Outlook
Dod o hyd i’r ategyn
Mae’r botwm Cysill i’w weld wrth gyfansoddi e-bost newydd neu wrth ymateb i
e-bost. Mae’n ymddangos yn rhuban Outlook, yn yr un tab â’r offer cyfansoddi
arferol.
Gwirio eich testun
- Ysgrifennwch eich e-bost yn Gymraeg
- Dewiswch y testun yr ydych am ei wirio
- Cliciwch ar y botwm Cysill yn y rhuban
- Bydd cwarel (pane) yn ymddangos ar ochr dde’r ffenestr
Bydd Cysill yn gwirio’r testun a gafodd ei ddewis ac yn dangos unrhyw wallau
sillafu, gramadeg a threiglo.
Cywiro gwallau
Pan fydd Cysill yn canfod gwall posibl:
- Bydd cerdyn yn ymddangos ac yn dangos:
- Y math o wall (sillafu neu ramadeg)
- Y testun yn ei gyd-destun, gyda’r gwall wedi’i amlygu
- Esboniad byr o’r gwall
- Awgrymiadau posibl ar gyfer cywiro
- Cliciwch ar yr awgrym yr hoffech ei ddefnyddio
- Pwyswch y botwm Derbyn i gadarnhau’r newid
- Bydd y cerdyn yn diflannu a’r rhifydd newidiadau yn cynyddu
- Ar ôl cwblhau’r holl gywiriadau, cliciwch Diweddaru i wneud y newidiadau
i’ch e-bost
Defnyddio’r geiriadur personol
Weithiau, bydd Cysill yn tynnu sylw at air sydd wedi’i sillafu’n gywir ond nad
ydyw yn ei eiriadur. Gallwch ddysgu’r gair i Cysill:
- Cliciwch y botwm Dysgu ar gerdyn y gwall
- Bydd y gair yn cael ei ychwanegu at eich geiriadur personol
- Ni fydd Cysill yn tynnu sylw at y gair fel gwall posibl wedi hynny.
- I reoli eich geiriadur personol:
- Cliciwch y botwm Geiriadur yn rhuban Outlook
- Byddwch yn gweld rhestr o’r geiriau yr ydych chi wedi’u ‘Dysgu’ i Cysill
- Cliciwch ar unrhyw air i’w ddileu o’r geiriadur
Anwybyddu geiriau
Os ydych yn dymuno anwybyddu awgrym y mae Cysill wedi’i wneud.
- Cliciwch y botwm Anwybyddu ar gerdyn y gwall
- Bydd y cerdyn yn diflannu
- Efallai y bydd y gair yn cael ei fflagio eto mewn sesiynau yn y dyfodol
Newid iaith y rhyngwyneb
Mae Cysill ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg:
- Edrychwch ar waelod cwarel Cysill
- Cliciwch ar Cymraeg neu English i newid yr iaith
- Bydd iaith eich rhyngwyneb yn diweddaru’n syth
Os nad yw’r botwm Cysill yn ymddangos
Os na allwch weld y botwm Cysill yn y rhuban:
- Edrychwch ar gornel dde uchaf yr e-bost
- Os yw Outlook yn dangos fersiwn gryno o’ch rhuban, cliciwch y saeth i lawr i
ddangos yr holl fotymau.
Cysill ar gyfer Microsoft Outlook – canllaw dosbarthu
Trosolwg
Mae Cysill yn ategyn gwirio sillafu a gramadeg Cymraeg ar gyfer Microsoft
Outlook a ddatblygwyd gan Uned Technolegau Iaith Prifysgol Bangor.
Fersiwn: 26.04.0
Datblygwr: Prifysgol Bangor
Cymorth: cysgliad@bangor.ac.uk
Nodweddion allweddol
- Gwirio sillafu a gramadeg ar gyfer testun Cymraeg
- Rheoli geiriadur personol
- Rhyngwyneb dwyieithog (Cymraeg / Saesneg)
- Dangos gwallau yn eu cyd-destun gydag awgrymiadau cywiro
- Diweddariadau cywiro swmp
Diogelwch a phreifatrwydd
Pensaernïaeth prosesu lleol
Mae’r ategyn yn prosesu pob testun yn lleol ar ddyfais y defnyddiwr. Mae’r
proses profi yn rhedeg yn y porwr / ap bwrdd gwaith gan ddefnyddio WebAssembly.
Nid yw cynnwys e-bost yn cael ei drosglwyddo i weinyddion allanol ar gyfer
dadansoddi. Mae geiriadur personol y defnyddiwr yn cael ei storio yn storfa
leol y porwr ac nid yw’n cael ei rannu rhwng dyfeisiau neu raglenni.
Caniatâd gofynnol
Mae ReadWriteItem yn caniatáu i’r ategyn:
- Darllen cynnwys e-byst sy’n cael eu cyfansoddi
- Addasu testun dethol mewn e-byst
Gweler dogfennaeth Microsoft
Cysylltiadau allanol
- Adnoddau CDN. Mae hyn yn ofynnol er mwyn i’r ategyn weithio. Mae ffeiliau’r
ategyn yn cael eu llwytho o’n Rhwydwaith Dosbarthu Cynnwys, wedi’i weini
trwy HTTPS.
Llwyfannau a gefnogir
- Microsoft Outlook (Ap Bwrdd Gwaith – Windows)
- Outlook 365 (Gwe – Pob llwyfan)
Nid yw ap bwrdd gwaith MacOS yn cael ei gefnogi ar hyn o bryd.
Gosod a dosbarthu
Opsiwn 1: dosbarthiad canolog
Dosbarthu trwy Ganolfan Gweinyddol Microsoft 365:
- Lawrlwytho’r ffeil manifest.xml
- Mynd i mewn i Ganolfan Gweinyddol Microsoft 365
- Llywio i Settings > Integrated apps > Add-ins
- Uwchlwytho’r ffeil manifest
- Aseinio i ddefnyddwyr neu grwpiau
Opsiwn 2: gosodiad â llaw
Gall defnyddwyr unigol lwytho’r ategyn ochr-yn-ochr:
- Darparu’r ffeil manifest.xml i ddefnyddwyr
- Mynd i https://aka.ms/olksideload ac aros am y ffenestr naid
- Dewis My add-ins > Add a custom add-in > Add from file
- Pori a dewis y ffeil manifest
- Cadarnhau’r gosodiad
- Bydd Microsoft yn cysoni’r ategyn i’ch ap bwrdd gwaith yn awtomatig, gall
gymryd diwrnod. Ail-lwythwch y fersiwn gwe (Ctrl+Shift+R) a dylech weld
yr ategyn yno ar unwaith.
Gwirio
Ar ôl gosod, dylai defnyddwyr weld botwm Cysill yn rhuban Outlook wrth
gyfansoddi e-byst newydd neu atebion. Mae ar gael yn y rhubanau Message a
Insert. Mae clicio’r botwm yn agor cwarel ar yr ochr dde.
Cymorth a phreifatrwydd
Cysylltiad cymorth
E-bost: cysgliad@bangor.ac.uk
Gwe: https://www.cysgliad.com/cy/cymorth/cymorth-ategyn-cysill-outlook
Polisi preifatrwydd: https://termau.cymru/polisi-preifatrwydd-yr-ategyn-termau-ar-gyfer-outlook/
