Cysgliad: helpu i ysgrifennu yn Gymraeg

Pecyn meddalwedd sy’n cynnwys gwirydd sillafu gramadeg Cysill a chasgliad geiriaduron Cysgeir yw Cysgliad.

Cysgliad am Ddim gan Lywodraeth Cymru

Wrthi’n dysgu neu wella dy Gymraeg? Ydy dy blant mewn addysg Gymraeg? Wyt ti’n eu helpu gyda’u gwaith cartref? Neu jyst chwilio am dawelwch meddwl bod pob t c p wedi mynd yn d g b yn y llefydd iawn? Gall Cysgliad helpu. Ac mae ar gael yn rhad ac am ddim.

Awydd rhoi cynnig arni? Mae TRWYDDED RAD AC AM DDIM i Cysgliad ar gyfer unigolion, ysgolion a phawb sy’n cyflogi 10 o bobl neu lai ar gael gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru.

 

Cyflogi mwy na 10?

Mae modd i gwmnïau a sefydliadau sy’n cyflogi mwy na 10 aelod o staff brynu TRWYDDED SEFYDLIADOL flynyddol drwy glicio YMA.

Yn wahanol i’r drwydded am ddim, mae trwydded sefydliadol yn cynnwys cefnogaeth lawn dros y ffôn a thelerau ac amodau sy’n addas ar gyfer anghenion sefydliadau.

Dyma dabl o fanteision y Drwydded Sefydliadol i sefydliadau:

Unigolion ac ysgolion; cwmnïau a sefydliadau
sy’n cyflogi 10 neu lai
Cwmnïau, sefydliadau, prifysgolion
sy’n cyflogi mwy na 10
Holl feddalwedd Cysgliad
Bar offer Microsoft Word ac Outlook
Bar offer LibreOffice
Diweddariadau ✔* ✔**
Lefel cymorth Cymorth drwy ryngwyneb sgwrsio ar y wefan Cefnogaeth lawn drwy ffôn a thros Teams/Skype/Hangouts i adran TG y cwmni/sefydliad yn ystod oriau gwaith
Rhaglen osod Rhaglen osod sylfaenol Rhaglen osod ar gyfer dosbarthu i beiriannau gweithiwr dros rwydwaith, ynghyd â thystysgrif llofnodi digidol
Natur y drwydded Cytundeb trwyddedu meddalwedd sylfaenol Cytundeb trwyddedu meddalwedd corfforaethol
Cost y drwydded Am Ddim Trwydded flynyddol yn ôl maint y cwmni neu’r sefydliad. Cysylltwch a’r swyddfa am ragor o fanylion***

* Tra pery cynllun Cysgliad am ddim (yn ddibynnol ar grant Llywodraeth)
** Yn gyson tra pery’r drwydded
*** Cysylltwch â’r swyddfa (+44 (0)1248 383293 neu cysgliad@bangor.ac.uk) am ragor o fanylion