Prynu Trwydded Cysgliad

Cysgliad ar gyfer Cwmnïau a Sefydliadau

Os ydych chi’n gwmni neu’n sefydliad sy’n cyflogi mwy na 10 o bobl, yna mae modd i chi brynu trwydded flynyddol sy’n gadael i chi roi’r feddalwedd ar gyfrifiadur pawb sy’n gweithio gyda chi, os oes ganddyn nhw gyfeiriad e-bost gwaith. Mae’r drwydded yn dod gyda chonract lefel gwasanaeth a chymorth technegol ar gael dros y ffôn yn ystod oriau gwaith.

Mae pris y drwydded yn amrywio yn ôl maint y cwmni, felly ffoniwch (01248) 383293, neu e-bostiwch cysgliad@bangor.ac.uk i gael pris trwydded flynyddol.

Mae’r drwydded hon hefyd yn caniatáu i’ch gweithwyr/myfyrwyr lwytho copi personol i lawr drwy eu cyfeiriad e-bost sefydliadol heb gost ychwanegol.

I fewngofnodi i’ch cyfrif cliciwch yma

I lawrlwytho Cysgliad cliciwch yma

I allgofnodi o’ch cyfrif cliciwch yma